Skip to main content  Text Only version of this page
CPD LLANRUG UNITED FC
©2003 CPD Llanrug

SER Y CLWB

CPD LLANRUG UNITED FC

HALL OF FAME

 

 

CHWARAEWR Y TYMOR / PLAYER OF THE SEASON

Y TIM CYNTAF / THE FIRST TEAM

           
1981-1982
1982-1983
1983-1984
1984-1985
1985-1986
1986-1987
Hefin PRITCHARD

Alan Vincent OWEN

Alan Vincent OWEN
Ken Wyn GRIFFITHS-*
John Ifor *JONES*
Gwynfor **OWEN*-
AWAITING PHOTO
           
1987-1988
1988-1989
1989-1990
1990-1991
1991-1992
Wayne PHILLIPS
Adrian WAKEHAM
*Dilwyn** MORRIS
Gary Llewelyn EVANS
*David** PHILLIPS
Richard WILLIAMS
           
1992-1993
1993-1994
1994-1995
1995-1996
1996-1997
1997-1998
*R Gareth** JONES**
Huw Geraint WILLIAMS
Nigel* GRIFFITHS
Nigel* GRIFFITHS
*R Gareth** JONES*
Stuart WILLIAMS
           
1998-1999
1999-2000
2000-2001
2001-2002
R Meical* OWEN
Andrew WILLIAMS
*Aled *WILLIAMS
Andrew WILLIAMS
*Robert** MORRIS
 
 
         
2002-2003
2003-2004
2004-2005
 
********Ceirion WILLIAMS,********* Kevin DAVIES & Aled WILLIAMS
Ceirion WILLIAMS & Eifion JONES
Carl
GRIFFITHS
 
 
         
2005-2006
2006-2007
Dan PYRS
*Aled *WILLIAMS
*David Noel WILLIAMS
&*Terry WILLIAMS
           
2007-2008
Richard EVANS

 

 

CHWARAEWR Y TYMOR / PLAYER OF THE SEASON

YR AIL DIM / THE RESERVES

           
1986-1987
1987-1988
1988-1989
1989-1990
1990-1991
1991-1992
Gareth PARRY
Gary Llewelyn EVANS
Michael Vincent OWEN
Kevin Wyn OWEN
Martin *BOHANA*
Colin ***DAVIES**
           
1992-1993
1993-1994
1994-1995
1995-1996
1996-1997
1997-1998
Rodney ROBERTS
Chris Vincent OWEN
Rodney ROBERTS
****Paul**** DAVIES
****Andrew**** DAVIES
J Terry WILLIAMS
           
1998-1999
1999-2000
2000-2001
2001-2002
2002-2003
Osian ROWLANDS
***Gwion*** LLWYD
**Iolo** ROBERTS
Martin WATKINSON
Derrick ROBERTS
 
 
           
2003-2004
2004-2005
2005-2006
*Robert** MORRIS
Derrick ROBERTS
Emlyn ROBERTS
Gareth David GRIFFITHS
   
   
         
2006-2007
       
Emlyn ROBERTS & Bedwyr EVANS
       
       
           
2007-2008
Sam WILLIAMS

 

 

 

 

CYN CHWARAEWYR/ESTRONIAID/SER & ERAILL

EX-PLAYERS/TRAVELLERS/STARS & OTHERS

 

 

OSCAR CRAMM
Almaenwr / German

Blaenwr addawol iawn oedd Oscar Cramm, yn garcharor rhyfel mewn gwersyll ym Mhontnewydd. Roedd yn gweithio ar fferm yn Meddgelert, ac roedd yn rhaid i swyddogion y clwb ei gyrchu a'i ddychwelyd yno ar gyfer pob gem. Bu'n chware i Lanrug am ddau dymor, ac roedd yn aelod o'r tim buddugol a enillodd y Gwpan Alves yn 1947-1948. Roedd ei fywyd yn dynn iawn ar ôl iddo ddychwelyd i'r Almaen ar ddiwedd y rhyfel, ac fe ysgrifennodd at glwb Llanrug yn gofyn am bar o esgidaiu peldroed. Wrth gwrs fe'u prynwyd, a'i gyrru iddo yn yr Almaen.

Oscar Cramm was a very useful forward, a prisoner of war in a camp at Bontnewydd. He worked on a farm in Beddgelert, and the club officials had to carry him forth and back for each match. He played for Llanrug for two season's, and he was an important member of the famous side who won the Alves Cup in 1947-1948. His life was of poverty when he returned to Germany at the end of the World War, and he wrote a letter to the club of Llanrug requesting a pair of football boots. Of course the club purchased a pair and sent them directly to Oscar in Germany.

DONALD KIMLOCK MACDONALD
Albanwr / Scottish

Daeth Donald Kimlock MacDonald i Lanrug fel Rheolwr / Chwaraewr yn nhymor 1950-1951. Bu'n chwaraewr proffesiynol gyda Dumfermline yn yr Alban, cyn ymuno a chlwb peldroed Dinas Bangor ac yna yn ei flaen i Llanrug. Dim ond am un tymor yn unig bu yn gwasanaethu Clwb Peldroed Llanrug United.

Donald Kimlock MacDonald was appointed Player / Manager of Llanrug United for the season 1950-1951. He had played as a professional for Dumfermline in Scotland, before joining Bangor City Football Club, and then on to Llanrug. He gave his services to Llanrug United Football Club for only one season.

 

JAMES SLONNE
Gwyddel / Irish

Fe ymunodd James Slonne y clwb yn nhymor 1973-1974, ar ôl ei ddenu o glwb Hirael, Bangor. Roedd yn byw mewn carafan yng Nglasinfryn. Chwaraewr canol cae ydoedd, ac bu yn ffyddlon iawn i glwb Llanrug. Ar ôl colli bws un Sadwrn i deithio am gem oddi-cartref yn Harlech, fe gyrhaaeddodd James yno rhyw ugain munud ar ôl y gic gyntaf ar ei foto beic 'two stroke' a wnai swn fel cacwn. Rhyw sut fe lwyddodd i ddod o hyd i Harlech, a da o beth oedd hynny, gan nad oedd gan Llanrug eilydd. Tro arall, a swper diwedd tymor y clwb ym Mhentrefelin, fe gyrhaeaddodd James a'i gariad ar gefn y moto beic, cafwydd nôson ardderchog a gorfu iddynt roi'r beic yng nghist y bws i ddod adref.

James Slonne joined the club for the 1973-1974 season when he was enticed from Hirael FC, Bangor. He lived in a caravan in Glasinfryn. He was a midfielder who proved to be a faithful member of the club. When he missed the team coach on a saturday to travel to an away match at Harlech, he arrived late at the ground twenty minutes after kick-off on his two stroke motorbike, which sounded like a buzzing bee. Somehow he managed to find Harlech, and that was a blessing because Llanrug did not have a substitue. On an other occasion, when the club annual end of season dinner was held at Pentrefelin, James and his girlfriend arrived at the venue on his motorbike, an excellent evening was enjoyed by all, and the motorbike was put into the coach boot for the journey home.

PIERCE JONES

Mae cysylltiad Pyrs a Chlwb Peldroed Llanrug yn mynd yn ôl o leiaf i'r cyfnod yn dilyn yr ail ryfel byd. Fe wnaeth ei farc ar y cae yn y tymhorau rhwng 1946 a 1955. Bu'n aelod triw o bwyllgor y clwb am flynyddoedd lawer, ac y bu'n Aeldau Oes y Clwb, ac roedd mor ffyddlon a gweithgar yn ei flynyddoedd olaf ag a fu erioed. Bu am flynyddoedd lawer yn rhoi ei amser yn rhad ac am ddim i dimau iau y clwb, gan gludo y chwaraewyr i gemau oddi-cartref.

Pyrs ties with Llanrug United Football Club go back at least to the era following the second world war. He represented the club as a player in the season's between 1946 and 1955. He was a faithful and hard working member of the club's committe for many years, he was a Life Member of the club, and he was as faithful in his last years as ever and a loyal and keen supporter. He gave his time for many years to club's Junior sides, by providing transport to away matches.

GEORGE W. LOVATT, C.Eng., M.I.E.E.

Roedd George Lovatt yn Aelod Oes o'r Clwb, ac roedd yn Drysorydd o 1969 hyd at 1975, ac yn dilyn hynny yn asgwrn cefn mawr i'r clwb mewn gweithgareddau blaenllaw. Yn nhymor 1969-1970 cafodd George y cyfle i brynu adeilad pren yn Mhorthmadog. Aeth criw o bwyllgor y clwb yno i dynnu y cwt i lawr yn ddarnau ac yna ei gludo yr holl ffordd i Eithin Duon. Yna ail-adeiladwyd y cwt, ac ei rannu oddifewn yn dair ystafell newid i'r chwaraewyr ac y dyfarnwr. Yn ogystal cafwyd cwt bychan a hwnnw oedd y cwt te gwreiddiol a fu yn hynod o boblogaidd nes ei ddymchwel yn 1998. Y peth pwysicaf yn hanes y clwb oedd prynu y cae yn 1972, George fu'n gyfrifol am y gwaith papur ac y trafod ar ran y clwb gyda'r perchennog ar cyfreithwyr. Nid oedd dal ar weithgareddau'r Pwyllgor diflino gyda George yn eu harwain, ac yn 1973 penderfynwyd lefelu y cae. Gwnaethpwyd y gwaith gan gwmni Blake & Arnold, a chwaraewyd y gemau ar gae Ysgol Brynrefail am dymor llawn. Ac y tymor canlynol cafwyd cyflenwad dwr a thrydan i'r ystafelloedd newid ar cwt te. Penderfynwyd cael ystafelloedd newid newydd o "flocs a mortar", ac fel yn y gorffenol bu George yn chwarae rhan bwysig iawn ar ran y clwb i gael yr adeilad yma. Cafwyd Grant gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac yn ogystal bu nifer o fechgyn ifanc yn gweithio ar y cynllun YTS yn adeiladu'r adeilad. Yn mis Gorffennaf 1987, agorwyd yr ystafelloedd gan yr Aelod Seneddol Dafydd Wigley. Cyflwynodd Clwb Peldored Llanrug Darian i Swyddogion Cynghrair Gwynedd yn mis Mai 1988, er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad am wasaneth George fel aelod o'r Pwyllgor am gyfnod dros ugain mlynedd di-dor ers ail ffurfio'r clwb. Gweler George(dde) isod yn cyflwyno'r Tarian George Lovatt i Mr. Bob Owen, Cadeirydd y Gynghrair yn Eithin Duon yn ystod mis Mai 1988.

George Lovatt was a Life Member of the Club and he was the Treasurer from 1969 until 1975. He was an influential character and backbone to the club in many important activities. During the 1969-1970 season George had the opportunity to purchase a wooden building from Porthmadog. Members of the club's committee travelled to Porthmadog to disassemble the building, and transport it back piece by piece to Eithin Duon. Then to reassemble the building and divide the interior to three dressing rooms for the players and the Referee. Also a small wooden hut was purchased, and that was the original tea hut which was very popular until its was replaced in 1998. One of the most important events in the history of Llanrug United Football Club without doubt was the purchase of Eithin Duon in 1972. George was responsible for the paperwork and negotiations on behalf of the club with the owner and solicitors. There was no holding back the tireless committee's activities with George at the helm, and in 1973 its was decided to level the playing surface at Eithin Duon. The work was carried out by the contractors Blake & Arnold, during this period the matches were played at Brynrefail School. The following season electricity and water supply was installed in the changing rooms and the tea hut. During the late part of 1997 the club decided it was time to have new changing rooms of blocs and mortar at Eithin Duon. As in the past George had an influential role on behalf of the club to gain this building. A Grant was received from the Sport Council of Wales, and the building was built by a few local youngsters on the YTS scheme. The changing rooms were officially opened in July 1987, by Dafydd Wigley MP. In May, 1988 Llanrug United Football Club presented the Officials of the Gwynedd League with a Shield to honour George's unbroken membership of the committee for over twenty years since the revival of the club. George (on the right) can be seen above presenting the George Lovatt Shiled to Mr. Bob Owen the Chariman of the Gwynedd League.

ALAN VINCENT OWEN

Hogyn lleol ydi Ali, ac fe chwaraeodd dros 750 o gemau i Lanrug rhwng 1969 a 1992. Gallai chwarae fel cefnwr de neu yng nghanol yr amddiffynfa. Pan ail-ffurfwyd y clwb yn 1969, ef oedd y dirprwy ysgrifennydd, ac mae'n dal yn weithgar ar, ac oddi ar y cae hyd heddiw. Cyn ymuno â Llanrug, bu'n chwarae dros Tryfan Rangers, Mountain Rangers, Llanberis, Caernarfon YMCA a Bethel. Mae'n fwy na thebyg ei fod wedi chwarae dros fil o gemau cynghrair yn ystod ei yrfa.

Ali is a local lad who has lived in the village of Llanrug all his life, he played more than 750 matches for the club between 1969 and 1992. He could play as a right full-back or as a centre half. When the club was re-established in 1969, he was the Vice Secretary, and he is still today as hard-working on and off the pitch. Before joining Llanrug, he played for Tryfan Rangers, Mountain Rangers, Llanberis, C'fon YMCA and Bethel. It is more than likely he played more than a thousand matches during his career.

EIFION PENNANT JONES - Jonsi

Bu Eifion Jones, neu Eifion Pennant fel y gelwid ef yr adeg honno, yn chware i glwb Llanrug yn nhymor 1972-1973. Ac ar nôson gwobrwyo diwedd y tymor daeth a'i ger Disc Jockey i Westy Dolbadarn, Llanberis i ddiddanu'r chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr. Mae bellach yn enw adnebyddus dros Gymru gyfan, wrth i'r genedl ddefro a bwyta eu brecwast wrth wrando arno yn malu awyr ar Radio Cymru bob bore.

Eifion Jones or Eifion Pennant as he was known then, played for Llanrug United during the season of 1972-1973. And on the clubs annual presentation night at the end of the season he brought his Disc Jockey equipment to the Dolbadarn Hotel, Llanberis to entertain the players, officials and supporters of the club. By now he's a very famous and popular disc jockey with his own breakfast show on Radio Cymru each moring.

Scowsar - JAMES McGURTY - Scouser

Bu James yn chwarae i dim cyntaf Llanrug yn ystod tymor 1988 - 1989. Daeth o Lerpwl i fyw at ei chwaer ym Mhwllheli pan yn wyth oed. Fe gollodd ei gyfle i chwarae i dim dan 15eg oed Ysgolion Cymru yn nhymor 1985-1986 oherwydd streic yr athrawon, ond fe ddaeth ei gyfle yn y tim dan ddeunaw oed yn nhymor 1988 - 1989. Gwisgodd y crys rhif naw am bedair gêm - curo Awstralia 1-0, colli i Loegr 4-0, curo Gweriniaeth Iwerddon 3-1 a gêm gyfartal 1-1 yn erbyn y Swisdir. Fe symudodd yn ôl i Lerpwl yn 1989 wedi iddo arwyddo i Everton, a bu yno am ddau dymor cyn arwyddo i Oddgrenland, clwb yn adran gyntaf cynghrair Norwy. Ef oedd eu hunig chwaraewr proffesiynnol llawn amser ar y pryd. Yn ystod y cyfnod hwn fe chwaraewyd gêm gyfeillgar yn erbyn Tottenham Hotspurs a'u trechu o ddwy gôl i un. Bu yno am wyth tymor cyn symud i glwb Porsgrenland yn ail adran cynghrair Norwy. Mae James eisoes wedi sicrhau swydd iddo ei hun pan ddaw ei ddyddiau peldroed i ben, mae cwmni cyfrifiaduron Thorn EMI yn ei hyfforddi fel rheolwr/gwerthwr.

James played for Llanrug's 1st team during the season of 1988-1989. He came from Liverpool as a eight year old to live with his sister at Pwllheli. He missed his chance in 1985-1986 to play for the Welsh Schools Under 15's because of the teachers strike. His chance came in season of 1988-1989 to play for the Under 18's, he wore the number 9 shirt for 4 matches, beat Australia 1-0, lost 4-0 to England, beat Rep. of Ireland 3-1, and a 1-1 draw against Switzerland. He moved back to Liverpool in 1989 when he signed for Everton, where spent two seasons before joining Oddgrenland, a 1st Divison club in Norway. He was their only full-time profesional at the time. During this period he played and won 2-0 in a friendly match against Tottenham Hotspurs. After eight seasons he moved on and joined Porsgrenland a 2nd Divison club in Norway. James has already assured a career for himself after his footballing days as Marketing Manager for the computer company Thorn EMI.

WAYNE PHILLIPS

Roedd Wayne yn adnabyddus fel un o sêr y Cae Râs, Wercsam. Bu'n chwarae yng nghanol y cae i Lanrug pan yn ddwy-ar-bymtheg oed yn nhymor 1987-1988, ac ar ddiwedd y tymor fe'i gwahoddwyd i Wrecsam am dair wythnos o brofion. Yn Haf 1988 fe gynigwyd telerau YTS iddo, ac yno troi'n broffesiynol yn 1989. Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn 1990, ac er iddo brofi'r siom o gael ei anafu droeon a gorfod eistedd ar fainc yr eilyddion yn ystod y blynyddoedd dilynol. Fe'i alwyd i garfan Cymru yn 1996 ac ef oedd chwaraewr y flwyddyn Wrecsam y tymor hwnnw. Fe dalodd Stockport County o'r Adran Gyntaf £200,000 am ei wasanaeth yn 1998 ac fe gadwodd ei le yn y tim tryw gydol y tymor. Fe ddychwelodd i'r Cae Râs ym Mehefin 1999 ar gytundeb tair mlynedd. Mae'n siarad Cymraeg yn rhugl, ac fe'i cyflogir yn aml gan y BBC ac S4C i roi ei sylwadau. Yn dilyn anaf wrth chware i Wrexham yn mis Medi, 2002, bu raid i Wayne ymddeol o'r gem broffesiynol yn yr haf 2003. Mae ef bellach yn Reolwr / Chwaraewyr i Glwb Tref Caernarfon yn Cynghrair Cenedlaethol Cymru.

Wayne was well-known as one of the stars of the Racecourse, Wrexham. He played in midfield for Llanrug at the age of seventeen during the 1987-1988 season, and at the end of that he season he was invited for a three week trial at Wrexham FC. During the summer of 1988 he became a YTS trainee, and during 1989 he became a professional at the Racecourse. He made his debut in 1990, only to suffer persistent injuries which forced him to sit out as a substitue for most of the following seasons. In 1996 Wayne got his first International call up for Wales, and he also was Wrexham's Player of the Season. Stockport County from the 1st Divison paid £200,000 for him in 1998, and he played every match for them during that season. He returned to the Racecourse in June 1999, on a three year contract. He's a fluent Welsh speaker, and is employed by the BBC and S4C as a pundit. Following a bad injury sustained playing for Wrexham in September, 2002, Wayne was forced to retire from the professional game during the summer of 2003. He now is a Player / Manager of his home town club Caernarfon Town who are members of the National League of Wales.

DAVIES'S

TEULU GWEITHGAR

Cryfder pob clwb pentref yw'r pwyllgor a'r bobl hynny sy'n fodlon rhoi o'u hamser i helpu, gall fod yn ymwneud a gweithgareddau megis hel arian, helpu yn y cae, rhedeg eu ceir i gario chwaraewyr i'r gemau, bod yn swyddogion ayyb Mae'n deg dweud dros y blynyddoedd fod llawer o unigolion a theuluoedd wedi rhoi hir amser i Glwb Pel-droed Llanrug, ond neb fwy na'r tri brawd o Dancoed, sef Arfon, Gwyn a Twm Davies a'u teuluoedd. Ers dechrau'r pedwar degau, pan aeth Arfon, y brawd hynaf a'i ddau frawd bach i weld Llanrug yn chware, mae'r teulu wedi bod yn gysylltiedig a'r clwb. Roedd y diweddar Arfon Davies yn ysgrifennydd brwd ac yn gymeriad amlwg iawn ym myd pel-droed Gogledd Cymru. Dilynodd ei fab, Bryn, yn sgidiau ei dad a gwelwyd ef yn rhoi dau gyfnod llwyddiannus fel ysgrifennydd i'r clwb. Chwaraeodd Gwyn a Twm i Lanrug ac wedyn ymuno a'r pwyllgor ar ddiwedd y chwe degau gan amlygu eu hunain yn natblygiad "Eithin Duon". Hefyd yn y cyfnod yma, ac yn wir i mewn i'r saith degau roedd gwragedd yr hogiau hefyd yn gweithio yn galed i'r clwb ac yn aeloadu o'r pwyllgor merched. Golygai hyn ddarparu lluniaeth i'r cefnogwyr a'r chwaraewyr ar ddiwrnod gem gartref, casglu arian, golchi a thrwsio'r "cit" a threfnu nosweithiau cymdeithasol. Mae llawer un wedi mwynhau paned gan Anti Katie ac Anti Mai. Erbyn heddiw gwelir y drydedd genhedlaeth, Carl, nai Twm, yn chware i Dim cyntaf y clwb, gyda ei dad Brian yn ysgrifennydd yr Ail Dim, ac ei ewythyr Bryn bellach yn Gadeirydd y Clwb. Mae pobl sy'n ymddiddori mewn pel-droed yn cysylltu y teulu "Moores" a phel-droed dinas Lerpwl fel y mae pawb yn cysylltu Clwb Llanrug gyda'r "Davies's".

Y ddau deulu wedi "rhoi" ond mewn ffyrdd gwahanol !!!

 

ARFON DAVIES
GWYN DAVIES
TWM DAVIES

 

HARD-WORKING FAMILY

The strength of any village club is its committee and those individuals who are willing to put their time to help, be it activities such as fund raising, assistance with the pitch, transport for the players to the matches, or to be a committee member etc. Its fair to say that over the years many individuals and families have given long service to Llanrug United Football Club, but none more than the three brothers from Tanycoed, namely Arfon, Gwyn a Twm Davies and their families. As from the early nineteen forties, when Arfon, the older brother took his two younger brothers to watch Llanrug play, the family has been associated with the club. The late Arfon Davies was an enthusiastic secretary and a prominent character on the North Wales soccer scene. Bryn his son, pursued his father's footsteps and gave three successful periods as club secretary. Gwyn and Twm were both players at the club, and then joined the committee at the end of the nineteen sixties, where they both became prominent in the development of "Eithin Duon" as a football ground. Also during this period, and well into the nineteen seventies the lads wives were working hard for the club and were members of the ladies committee. They were responsible for preparing refreshments for the players on home match days, fundraising, washing and repairing the kit, and arranging social evenings. Many individual has enjoyed a cuppa from Anti Katie and Anti Mai. By today the third generation can be seen, Twm's nephew Carl is a very important member of the club's senior team, and Carl's father Brian is the Reserves match secretary, while his uncle Bryn is now the club's Chairman. Individuals who follow soccer associate the "Moores" family with football in the city of Liverpool, as the everybody associates Llanrug United Football Club with the "Davies's"

Both families have "given" but in different ways !!!!

 

EIFION PRITCHARD JONES
Bu Eifion yn chwarae i dimau Iau Clwb Peldroed Llanrug United i gyd yn eu tro. Arwyddodd ffurlenni ‘schoolboy’ i glwb Lerpwl yn 1995, ac ym mis Gorffennaf, 1997 fe ymunodd ar clwb ar gynllun YTS. Ac yna yn mis Medi, 1997 fe arwyddodd fel peldroediwr proffeiynnol i glwb Lerpwl, ar gytundeb a oedd I barhau hyd Fehefin, 2000.

Cynrychiolodd Eifion glwb Lerpwl ar bob lefel ag eithrio'r tim cyntaf, a chwaraeodd yn yr un timau ag enwogion megis Michael Owen, Jamie Redknapp, Steven Gerrard a Robbie Fowler. Roedd yn aelod cyson o'r Ail Dim yn ystod Tymor 1999 / 2000, pryd yr ennillodd Lerpwl y “FA Premier Reserve League” am y tro cyntaf.

Oherwydd cryfder mewn dyfnder clwb Lerpwl, yn enwedig mewn safle y 'centre half', nid oedd yno lawer o gyfle i'r dyfodol i Eifion yn Anfield. Pan ddeallodd rheolwr Blackpool, Steve McMahon fod Eifion am gael ei ryddhau gan Lerpwl, fe gynigiodd gytundeb dwy flynedd a hanner iddo, ac o ganlyniad fe arwyddodd Eifion i'r 'Seasiders' ar ddiwrnod y 'Transfer deadline'. Aeth yn syth i garfan y tim cyntaf, ac ar ôl bod ar y fainc fel eilydd am rai gemau fe wanaeth ei 'debut' yn y Gynghrair Genedlaethol i Blackpool yn erbyn Chesterfield ar bnawn olaf y tymor ac yntau yn 19 mlwydd oed.

Ar ddechrau y tymor canlynol roedd Eifion yn aelod blaenllaw o'r tim yn y misoedd cynar, ond yn dilyn anaf, prynodd McMahon 'centre half' profiadol, ac prin iawn oedd cyfleon Eifion yno wedyn. Pan ddaeth ei gytundeb i ben yn Blackpool , dychwelodd Eifion gartref, ac er iddo gael cynigion i arwyddo yn broffesiynol gyda nifer o glybiau yn Lloegr ac yn yr Iwerddon, dewis arwyddo i Peter Davenport wnaeth Eifion, a chware i Clwb Peldroed Dinas Bangor yng Nghyngrair Cenedlaethol Cymru.

Fel rhodd o ddiolch i Glwb Peldroed Llanrug United cyflwynodd Eifion ei grys GPD Cymru wedi ei fframio i'r clwb, mae cael lle allweddol iawn ar y wal yn ystafell bwyllgor y clwb.

1994 / 1995 - Tim dan 15 Ysgolion Cymru - 4 cap

1995 / 1996 - Tim dan 15 Ysgolion Cymru - 4 cap

1996 / 1997 - Tim dan 18 Ysgolion Cymru - 4 cap

1997 / 1998 - Tim dan 16 GPD Cymru - 3 cap

1998 / 1999 - Tim dan 18 GPD Cymru - 5 cap

Fel rhodd o ddiolch i Glwb Peldroed Llanrug United cyflwynodd Eifion ei grys Cymdeithas Peldroed Cymru wedi ei fframio i'r clwb, mae'n cael lle allweddol iawn ar y wal yn ystafell bwyllgor y clwb yn Eithin Duon.

As a show of appreciation, Eifion presented Llanrug United Football Club with his framed Welsh Football Association shirt, which can be seen in its pride and place on the wall in the committee room in Eithin Duon.