|
Un
o'r pethau pwysicaf yn hanes y clwb, heb amheuaeth, oedd
prynu'r cae Eithin Duon gan Mr William Pritchard
(Cefn Llwyd) yn ystod mis Chwefror,1973. Roedd rhediad
yn y cae gwreiddiol o un droedfedd ar ddeg o'r gornel
uchaf i'r gôl isaf, felly llogwyd tarw haearn i'w lefelu,
yna ei hau a'i adael am dymor gyfan. Chwaraewyd y gemau
cartref am y tymor ar gae Ysgol Brynrefail, gan ddal i
ddefnyddio Eithin Duon ar gyfer newid ac ymolchi i'r chwaraewyr.
Roedd
y clwb yn mynd o nerth i nerth yn ystod y cyfnod yma gyda
Swyddogion a Phwyllgor gref iawn : Ernest Fields
(Llywydd) - Bob Thomas (Cadeirydd) - Ken Williams
(Is-Gadeirydd) - Bryn Davies (Ysgrifennydd) - George
Lovatt (Trysorydd).
Ac
yr unigolion a etholwyd i wasanaethu ar y Pwyllgor oedd
: Merion Davies - Twm Davies - Gwyn Davies - John Arfon
Jones - Evan Owen - Hubert Evans - Pierce Jones - K Jones
- M Jones - T Jones - Eric Humphreys - Dick Jones - D
Roberts - A Roberts - Dafydd Whiteside Thomas - R Elwyn
Jones - Elwyn Jones.
Y
Rheolwr / Chwaraewr oedd Roger Owen o Fynydd Llandygai.
Siom mawr i'r clwb oedd colli Roger yn mis Hydref, pan
ymadawodd am Glwb Tref Caernarfon. Penodwyd Ken Williams
(KMP) yn reolwr am weddill y tymor, gorffenodd y tim yn
ail yng Nghynghrair Caernarfon a'r Cylch gan dderbyn Cwpan
Deanfield, siomedig iawn am iddynt fod ar y brig y Gynghrair
am ran helaeth o'r tymor, cyn petruso yn y pen diwethaf.
One of the most
important events in the history of Llanrug United Football
Club without doubt was the purchase of Eithin Duon
from Mr William Pritchard (Cefn Llwyd) during February,1973.
One of the first projects was to level the playing surface,
there was a slope of nearly eleven feet from the top corner
to the bottom goal. Therefore, for the ground to be developed
the club home fixtures for the 1973-1974 season were played
at Brynrefail School playing field.
During this period
the club was going from strength to strenght with a hard
working Committee and Club Officials : Ermest Fields
(President) - Bob Thomas (Chairman) - Ken Williams
(Vice-Chairman) - Bryn Davies (Secretary) - George
Lovatt (Treasurer)
And the following
were selected to serve on the committee : Merion Davies
- Twm Davies - Gwyn Davies - John Arfon Jones - Evan Owen
- Hubert Evans - Pierce Jones - K Jones - M Jones - T
Jones - Eric Humphreys - Dick Jones - D Roberts - A Roberts
- Dafydd Whiteside Thomas - R Elwyn Jones - Elwyn Jones.
Roger Owen
from Mynydd Llandygai was appointed as a Player / Manager.
Unfortunaetly Roger left for Caernarfon Town in October,
and Ken Williams was appointed as manager for the
rest of the season. The team finished 2nd in the Caernarfon
& District League and received the Deanfield Cup as
a result, a bitter disappointment after being top of the
league throughout the season and faltered badly at the
last hurdle.
|