|
Llanrug
United 2 - 0 Mountain
Rangers
Wedi blynyddoedd o
ymdrechu heb lwyddiant sicrhaoedd bechgyn o dan bymtheg
oed Llanrug United y 'Junior Cup' ar yr Oval, ar y deunawfwd
o Fai, 1996. Gyda Mountain Rangers - y ffefrynnau - yn
wrthwynebwyr a hwythau eisioes wedi curo Llanrug ddwywaith
yn ystod y tymor, fe ddaliodd yr hogia eu perfformiad
gorau tan y gem bwysicaf un. Dangosodd Andrew Williams,
un o chwaraewyr mwyaf dawnus y gynghrair, ei werth gyda
dwy gôl ardderchog. A dyna oedd y sgôr terfynol
- 2-0.
O dan reolaeth
Mr Howyn P Jones, wedi bod yn canolbwyntio ar y
gem ers dyddiau, a chapteiniaid Owain Machno Lloyd
y gôlgeidwad cafwyd y 'commitment' oedd ei angen.
Gyda'r llawer o'r chwaraewyr yn chwarae eu gem olaf o
dan yr oed yma, gan gynnwys Eifion P Jones sydd
ar ei ffordd i Anfield. Yn ôl yr arfer chwaraeodd
Eifion yn dda iawn ac edrychodd ben ac ysgwydd yn uwch
na'r chwaraewyr eraill, ond yn anffodus fe gafodd gerdyn
melyn - y cyntaf o amryw dwi'n siwr. Ei bartneriaid amddiffynnol
oedd Wayne Pierce Jones a Steven Wyn Jones
ac Irfon Hughes yn ardderchog fel arfer.
Yng nghanol y
cae roedd Dyfan Williams yn gwneud ei orau i blesio'r
cefnogwyr - yn enwedig y genethod ! Ar yr asgell chwith
roedd Aled Jones, a weithiodd yn galed, ac roedd
Meilir Jones yr ochr arall yn ceisio ei orau gan
obeithio plesio ! Sion Stokes oedd y pedwerydd
aelod yn y canol. Chwaraeai 'calon y tim' mor gyson ag
eriod ac ef oedd y 'Man of The Match'. I fyny'r cae gwelwyd
Gerallt Hughes yn defnyddio ei bresenoldeb corfforol
yn ogystal a rhedeg yn ddeallus. Gyda gôliau gwych
a sgiliau Andrew, yn ogystal ag arbediadau pwysig Machno,
ni ellir gweld bai ar unrhyw berfformiad. I gadw'r pwysau
ar y tim a ddechreuodd y gem, roedd nifer o eilyddion.
Ni ellir anghofio rhan Gethin Williams, Geraint
Cook, Martin Morris, Gwion Iwan a Sion
Jones, i'r llwyddiant er fod 'Perthi' yn Fuerte
Ventura !
Yn dilyn y dathlu
daeth y seremoni cyflwyno'r medalau. Cafodd pob aelod
o'r tim afael yn y gwpan, cyn ac ar ôl y bwffe !
Paciodd Owain y gwpan yn ei fag a mynd a hi i Fryn Moelyn
!
Nid oedd neb
yn haeddu'r clod a'r llwyddiant yn fwy na'r rheolwr, sydd
wedi ymddeol ar ôl y gem hôn, ar ôl
blynyddoedd o waith gwerthfawr i'r Clwb.
Adroddiad
gan - Meilir Jones (Un o'r Hogia)
|